Argraffiad Newydd Llyfr Cerdded Cymru
Mae Dr. Britta Schulze-Thulin wedi ailwneud ei llyfr cerdded dan y teitl "Wales" (Cymru) wrth wasg Rother. Mae‘r llyfr cerdded hwn wedi dod allan mewn bedwerydd argraffiad fis Awst 2025.
Rother Wanderführer Wales (Rother: llyfr cerdded Cymru)
Clawr meddal - 168 tudalen
Cyhoeddwyr: Bergverlag Rother, München (Miwnic)
Dyddiad Cyhoeddi: 2025
ISBN: 978-3-7633-1448-5
Argraffiad: 4
Pris: Ewro 17.90
laith: Almaeneg
Mae’r arweinlyfr cerdded hwn yn dangos tirwedd ddramatig a phrydferth Cymru. Gyda’i dirwedd amrywiol eithriadol – y mynyddoedd uchel, dyffrynnoedd coediog, afonydd, llynnoedd ac arfordir mae Cymru yn baradwys i gerddwyr.
Mae’r mynyddoedd yn cynnwys peth o dirwedd mwyaf ysblennydd a nodedig. Yn Eryri mae cadwyni mynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr. Mae’r tir garw yn cynnwys golygfeydd mwyaf ysblennydd a nodedig, dyffrynnoedd unig, llynnoedd ac afonydd. Yn y de mae‘r Bannau Brycheiniog gyda dyffrynnoedd afonydd coediog sy‘n torri drwyddynt ac yn ffurfio rhaeadrau gwych. Mae’r arfordir gyda’i baeau melyn trawiadol, creigiau a chlogwyni geirwon yn rhywbeth i bawb.
Mae cyfoeth o lwybrau o bob math ar gael i fwynhau crwydro yng Nghymru. Mae’r llyfr cerdded hwn yn cyflwyno casglaid y pum deg gorau ohonyn nhw.
Dyma arweinlyfr cerdded cyntaf am Gymru yn yr iaith Almaeneg.